Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2024
Pwynt Craffu Technegol 1: Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y pwynt. Mae’r Llywodraeth o’r farn mai mân gamgymeriad yw hwn ac nad yw’n achosi unrhyw ddryswch o ran cwmpas y cofnod perthnasol yn Atodiad 2 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1973.
Mae adolygiad o Reoliad 2019/1973 yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae offeryn statudol pellach wedi’i gynllunio a fydd yn amnewid Atodiad 2 wedi’i ddiweddaru i’r Rheoliad hwnnw; disgwylir i’r offeryn hwnnw gael ei wneud ym mhedwaredd chwarter 2024.
Am y rhesymau a nodir uchod, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu gadael yr offeryn fel y mae.